Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 21 Mai 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.05 - 12.38 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees AC (Cadeirydd) Alun Davies AC Janet Finch-Saunders AC John Griffiths AC Elin Jones AC Darren Millar AC Gwyn R Price AC Lindsay Whittle AC Kirsty Williams AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru Hywel Dafydd, Comisiynydd Plant Cymru Samantha Clutton, Barnardo’s Cymru Cecile Gwilym, NSPCC Cymru Catriona Williams, Prif Weithredwr, Plant yng Nghymru Kate Chamberlain, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Nia Roberts, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Lin Slater, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Lynda Williams, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Madeley (Clerc) Helen Finlayson (Ail Glerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Stephen Boyce (Ymchwilydd) Amy Clifton (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): trafodaeth am drefn ystyried trafodion Cyfnod 2
1.1 Cytunodd y Pwyllgor ar drefn ystyried trafodion Cyfnod 2 y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) mewn egwyddor.
2 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lynne Neagle.
3 Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 13
3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.
3.2 Cytunodd y Comisiynydd Plant i ddarparu'r eitemau a ganlyn i'r Pwyllgor:
· canfyddiadau adolygiad y Comisiynydd o'r broses o gomisiynu gwasanaethau eiriolaeth;
· ei barn ar adran 57 o'r Bil ar swyddogaethau awdurdodau lleol sy’n ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya.
4 Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 14
4.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.
4.2 Cytunodd Catriona Williams a Cecile Gwilym i roi eu barn i'r Pwyllgor ynghylch a yw'r Bil yn rhoi diffiniad digon clir o weithiwr gofal cymdeithasol.
4.3 Cytunodd Samantha Clutton a Cecile Gwilym i roi eu barn i'r Pwyllgor ar sut y gellid atgyfnerthu'r Bil o ran comisiynu gwasanethau gan awdurdodau lleol.
5 Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 15
5.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.
6 Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 16
6.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau'r Aelodau.
7 Papurau i’w nodi
7.1 Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru): gohebiaeth gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
7.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
8 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
8.1 Derbyniwyd y cynnig.
9 Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): trafod y dystiolaeth
9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
9.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at sefydliadau gofalwyr maeth i ofyn eu barn ar ymestyn y gofyniad i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i ofalwyr maeth.
10 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): paratoi ar gyfer gwaith craffu
10.1 Nododd y Pwyllgor benderfyniad y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol graffu arno yng Nghyfnod 1 a Chyfnod 2 a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ddweud bod ganddo bryderon sylweddol ynghylch yr amserlen arfaethedig a'r pwysau y byddai hynny'n eu rhoi ar ei lwyth gwaith.
10.2 Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ofyn i'r Pwyllgor Busnes ymestyn y terfyn amser ar gyfer craffu ar y Bil yng Nghyfnod 1 o ddwy wythnos er mwyn caniatau ar gyfer ymrwymiadau gwaith eraill.